Rhif y ddeiseb: P-05-935

Teitl y ddeiseb: Gwahardd Parcio ar Balmentydd - Addewid Palmant (Pavement Promise)

Testun y ddeiseb: Galwaf ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i orfodi gwaharddiad ar barcio ar balmentydd.

Rwy'n ymgyrchu i ddod â pharcio ar balmentydd i ben. Mae'n fater cynyddol sy'n effeithio ar fy hun a chymaint o rai eraill yng Nghymru bob dydd gan beryglu eu diogelwch. Mae'n fater enfawr i'r rheini ag anabledd a'r rhai â chadeiriau gwthio. Mae hyn yn arbennig o anodd pan fydd cerbydau'n parcio ar y cwrb isel neu'r palmant botymog.

Ar sawl achlysur mae'r cerbyd sydd wedi'i barcio ar y palmant yn achosi i'r olygfa o'r ffordd ddod yn gyfyngedig. Mae hyn yn achosi i'r sefyllfa ddod yn beryglus i unrhyw un sy'n gorfod mynd ar y ffordd i basio'r cerbyd. Mae risg llawer uwch i'r rheini sydd â nam ar eu golwg neu ddefnyddwyr cadeiriau olwyn symud i'r peryglon anhysbys.

Dylai fod gan bawb yr hawl i annibyniaeth. Fodd bynnag, pan fydd cerbydau'n parcio ar y palmant, mae hyn yn cyfyngu'r rhai na allant yrru ac sy’n dibynnu ar y palmant i deithio o amgylch eu cymuned. Gall hyn hefyd arwain at unigedd a phryder.

Dylid ymdrin â hyn nawr fel bod gan genedlaethau'r dyfodol yr un siawns o annibyniaeth a diogelwch i bawb yn ein cymunedau.

Mae gen i a fy mab nam ar ein golwg. Mae'r mater hwn yn ei gwneud hi'n anodd iawn inni gael mynediad i'n cymuned yn ddiogel. Rydw i wedi siarad â llawer o bobl sydd hefyd yn ei chael hi'n anodd.

Fe wnes i a fy mab greu ymgyrch o'r enw Addewid Palmant (Pavement Promise). Rydyn ni am i bawb addo peidio â pharcio ar y palmant.

Rwy'n teimlo y dylid cael tîm penodol i weithio ar y mater hwn. Efallai ffordd ryngweithiol/ar-lein i bobl gyflwyno gwybodaeth.

Rydw i am i fy mab gael cymaint o annibyniaeth ag y gall yn ei ddyfodol mewn modd diogel. Helpwch fi i gadw ein cymunedau'n ddiogel.

 


1.        Cefndir

1.1.            Deddfwriaeth

Ar hyn o bryd nid yw parcio ar balmant yn drosedd benodol yng Nghymru a Lloegr y tu allan i Lundain heblaw yn achos cerbydau masnachol trwm. Er bod nifer o droseddau y gellir eu defnyddio i fynd i'r afael â pharcio ar balmentydd, mae cymhwyso'r troseddau hyn yn dibynnu ar yr amgylchiadau, er enghraifft a ystyrir bod y cerbyd yn achosi rhwystr.

Amlinellodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates AC, y sefyllfa gyfreithiol ar barcio yng Nghymru, yn enwedig parcio ar balmentydd, mewn llythyr at Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ym mis Ebrill 2018.  

Yn benodol, dywedodd, yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon, fod rheoli parcio ar strydoedd Cymru wedi'i neilltuo i Lywodraeth y DU felly nid oes gan y Cynulliad gymhwysedd i wneud deddfwriaeth sylfaenol yn y meysydd hyn. Mae hyn o ganlyniad i'r ffaith, o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, bod troseddau traffig ffyrdd a rheoleiddio cerbydau modur ar ffyrdd yn faterion a gadwyd yn ôl.

Fodd bynnag, wrth gyfeirio at y gyfraith berthnasol, tynnodd y Gweinidog sylw at y ffaith bod “gan Weinidogion Cymru bwerau i bennu troseddau traffig ffyrdd penodol yn dramgwyddau sifil y gall awdurdod lleol ymdrin â nhw”. Soniodd hefyd fod gan awdurdodau lleol bwerau o dan adran 1 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984i wneud Gorchmynion Rheoleiddio Traffig y gellir eu defnyddio i wahardd, cyfyngu neu reoleiddio’r defnydd o ffyrdd penodol, sy'n cynnwys palmentydd. Dywedodd:

Gellir gosod y cyfyngiadau am amrywiaeth o resymau a gallant gynnwys mannau penodol neu ardaloedd mawr.  Gallant fod yn weithredol drwy’r amser neu yn ystod cyfnodau penodol, a gellir esemptio mannau penodol o draffig.

1.2.          Deddf Trafnidiaeth (Yr Alban) 2019

Mae Rhan 6 o Ddeddf Trafnidiaeth (Yr Alban) 2019 yn darparu ar gyfer gwahardd parcio ar balmentydd, a ddiffinnir fel sefyllfa lle mae'r cerbyd yn llonydd a lle mae un neu ragor o'i olwynion (neu unrhyw ran ohonynt) ar unrhyw ran o'r palmant. Mae cerbyd llonydd wedi'i barcio pa un a yw'r gyrrwr yn bresennol ai peidio a pha un a yw'r injan yn rhedeg.

Gall awdurdodau lleol yr Alban wneud gorchymyn esemptio i ddarparu nad yw'r gwaharddiad ar barcio ar balmentydd yn berthnasol i balmant penodol yn ei ardal. Rhaid i'r esemptiad fod yn gymwys ar bob adeg o'r dydd ac i bob cerbyd a rhaid bod arwyddion traffig ar waith i roi gwybod am y gorchymyn esemptio. Mae yna nifer o eithriadau i'r gwaharddiad ar barcio ar balmentydd. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, cerbydau brys a chasglu gwastraff neu wasanaethau post.

1.3.          Pwyllgor Trafnidiaeth Tŷ'r Cyffredin

Ym mis Medi 2019 cyhoeddodd Pwyllgor Trafnidiaeth Tŷ'r Cyffredin ei adroddiad yn sgil ymchwiliad i barcio ar balmentydd.. Beirniadodd y Pwyllgor yr Adran Drafnidiaeth am fethu â gweithredu ar barcio ar balmentydd, er bod Aelodau Seneddol wedi cael ar ddeall ei fod yn cael effaith niweidiol ar fywydau pobl ac yn gallu arwain at arwahanrwydd cymdeithasol. Galwodd y Pwyllgor am wahardd parcio ar balmentydd ledled Lloegr a nododd hefyd argymhellion ar sut y gellir mynd i’r afael â hyn tra bod deddfwriaeth yn cael ei pharatoi. Roedd yr argymhellion yn cynnwys ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol i dynnu sylw at ganlyniadau negyddol parcio ar balmentydd, a diwygio proses y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig i'w gwneud hi'n haws i awdurdodau lleol ei defnyddio. Ar yr adeg yr ysgrifennwyd hwn, nid oedd Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn ffurfiol i adroddiad y Pwyllgor.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mewn cynhadledd Teithio Llesol ym mis Gorffennaf 2019, cyhoeddodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters AC, y byddai Llywodraeth Cymru yn “tynnu ynghyd grŵp o arbenigwyr i edrych ar ffyrdd mwy effeithiol o atal parcio anghyfreithlon, ac atal pobl rhag parcio ar y palmant.”

Ym mis Hydref 2019, cyhoeddodd yr elusen Living Streets adroddiad 'Camu tuag at wahardd parcio ar balmentydd yng Nghymru' (PDF 8,940KB). Yn y rhagair dywedodd y Dirprwy Weinidog:

Mae ceir sy’n creu rhwystrau ar balmentydd yn atal nifer o bobl rhag gadael eu tai gan eu bod yn teimlo ei bod yn rhy beryglus i deithio’r strydoedd. Gwyddom fod hyn yn effeithio’n benodol ar y rheini sydd â nam o ran symudedd a golwg a theuluoedd gyda phlant ifanc.

Yn ddiweddarach y mis hwnnw dywedodd y Dirprwy Weinidog fod tasglu arbennig wedi’i sefydlu a bod ei gylch gwaith hefyd yn cynnwys adolygu’r defnydd o’r ddeddfwriaeth bresennol, sy’n gymysgedd cymhleth o sancsiynau troseddol a sifil. Dywedodd hefyd y bydd y tasglu yn adrodd ar ei ganfyddiadau ym mis Mehefin 2020.

Yn ddiweddarach ym mis Tachwedd ysgrifennodd y Dirprwy Weinidog at Adam Price AC (PDF 476KB) yn darparu'r Ddogfen Cychwyn Prosiect ar gyfer y tasglu. Dywed y ddogfen: “for the purpose of the project ‘pavement parking’ is defined as when one or more wheels of a vehicle are on the footpath”. Mae'r tasglu hefyd:

…assumes that it is the intention to have a national ban on pavement parking throughout Wales, without introducing primary legislation…[and] there is political will to support the implementation of the proposed outcomes across the Country.

3.     Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn 2018 cwblhaodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Cynulliad ymchwiliad i graffu ôl-ddeddfwriaethol ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Argymhellodd yr adroddiad fel a ganlyn:

Dylai Llywodraeth Cymru weithio'n rhanbarthol gyda'r heddlu ac awdurdodau lleol i gytuno ar ffyrdd arloesol o fynd i'r afael â pharcio ar balmentydd, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth o'i effaith er mwyn newid ymddygiad gyrwyr.

Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wrth y Pwyllgor:

There is no doubt that parking on pavements inhibits the ability, particularly of disabled people, to be able to travel safely, but also in terms of cycling, it can be incredibly dangerous to have cars and lorries parked in inappropriate areas.

Mae'r mater wedi'i drafod yn y Cynulliad. Yn y Cyfarfod Llawn ar 22 Ionawr 2020, mewn ymateb i gwestiwn gan Hefin David AC, dywedodd y Dirprwy Weinidog fod Phil Jones yn arwain y tasgluoedd ar barcio ar balmentydd a therfynau cyflymder 20mya. Aeth ymlaen i ddweud:

…mae angen inni ystyried hyn yn rhan o'r gyfres ehangach o fesurau sydd gennym, ynghyd â therfynau cyflymder 20 mya, i ddechrau sicrhau newid moddol a mynd i'r afael â thra-arglwyddiaeth y car yn ein cymdeithas, ond ni fydd hynny'n gweithio oni bai ein bod yn rhoi dewisiadau amgen i bobl hefyd.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.